20fed bore coffi blynyddol Macmillan yn codi cyfanswm yr arian a godwyd i £17,899
Ar ôl dau ddegawd o gynnal Boreau Coffi Macmillan, roedd digwyddiad eleni ar 28 Medi yn un rhithwir a gynhaliwyd ar-lein oherwydd yr amgylchiadau eithriadol o ganlyniad i'r pandemig.
Er gwaethaf y newid fformat, roedd hi'n wych ein bod ni wedi llwyddo i godi ychydig o dan £600 diolch i roddion ar-lein drwy dudalen JustGiving arbennig.
Mae’r cyfanswm a godwyd dros yr 20 mlynedd bellach yn £17,899
Mae'r bore coffi fel arfer yn ddigwyddiad cymunedol prysur gyda chefnogaeth wych gan fusnesau lleol sy'n cyfrannu gwobrau raffl hael.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi croesawu nifer fawr o bobl leol i'r boreau coffi rheolaidd hyn er mwyn cynorthwyo elusen gwerth chweil, ac rwy'n gobeithio gallu gwneud hyn eto y flwyddyn nesaf, os bydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny.
FAINT GODWYD MEWN BLYNYDDOEDD BLAENOROL
Fel arfer, mae'r bore coffi blynyddol rwy'n ei gynnal yn yr Eglwys Newydd yn hynod boblogaidd, ac rwy'n newid y lleoliad bob blwyddyn i gefnogi caffis lleol.
Yn 2018, fy 18fed flwyddyn, cynyddodd y cyfanswm a godwyd i £16,000
Yn 2019, fy 19eg flwyddyn, codwyd £800, ynghyd â £500 gan fanc lleol, gan godi'r swm a godwyd y flwyddyn honno i £1,300. Cododd y cyfanswm cyffredinol a godwyd i £17,300.
Yn 2020, ar ôl dau ddegawd o godi arian a chyda rhoddion ar-lein o £599, cododd y cyfanswm a godwyd i £17,899.