Popeth sydd angen i chi ei wybod am Julie Morgan
Cafodd Julie Morgan ei magu a'i haddysgu yng Nghaerdydd. Cafodd ei geni yn y ddinas a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Dinas Powys ac Ysgol Howell’s yng Nghaerdydd. Astudiodd yn King's College, Llundain, gan raddio gyda BA yn Saesneg yn 1965. Astudiodd hefyd ym Mhrifysgol Manceinion ac enillodd ddiploma ôl-radd mewn Gweinyddu Cymdeithasol (CQSW) o Brifysgol Caerdydd.
Cyn i Julie ddod yn Aelod Seneddol, roedd hi'n weithiwr cymdeithasol gyda Gwasanaethau Cymdeithasol y Barri, ac yn gyfarwyddwr cynorthwyol i Barnardo's. Roedd hi'n gynghorydd De Morgannwg o 1985 i 1997 ac yn gynghorydd Caerdydd o 1995.
Ym 1997 etholwyd Julie yn Aelod Seneddol Llafur dros Ogledd Caerdydd – un o blith dim ond 13 o fenywod i fod yn Aelodau Seneddol Cymru erioed (ar y pryd) (darllenwch farn Julie am restrau byr menywod-yn-unig) a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol am 13 mlynedd nes iddi, o drwch blewyn, golli'r sedd o 194 pleidlais yn 2010.
Julie yn y Senedd
Etholwyd Julie yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd am y tro cyntaf yn 2011 (ers mis Mai 2020 mae’n cael ei hadnabod fel Aelod o’r Senedd). Cafodd ei hailethol yn 2016 pan wnaeth hi fwy na dyblu ei mwyafrif (i 3,667) gan ennill 16,766 o bleidleisiau, sef y nifer uchaf o bleidleisiau a fwriwyd dros unrhyw Aelod Cynulliad yng Nghymru. Roedd y ganran a bleidleisiodd hefyd yn un o'r uchaf yng Nghymru, sef 56.81 y cant.
2016-hyd heddiw
Yn y Pumed Cynulliad (2016-2021) mae Julie wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Plant a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wedi cadeirio Grwpiau Trawsbleidiol ar Blant, Hemoaffilia a Gwaed Halogedig, yr Undeb GCM a Sipsiwn a Theithwyr.
Yn ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia a Gwaed Halogedig, ymgyrchodd Julie dros ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed halogedig, gan godi'r mater mewn nifer o gwestiynau a dadleuon yn y Cynulliad (cyn hynny, cododd y mater fel Aelod Seneddol hefyd). Yn y pen draw, cytunwyd i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2017.
Ym mis Rhagfyr 2018, cafodd Julie ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru.
Fel y Dirprwy Weinidog, cyflwynodd Julie ddeddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad cosb resymol, i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael yr un lefel o amddiffyniad rhag cosb gorfforol yn ôl y gyfraith ag oedolion. Mae hwn yn fater y bu’n ymgyrchu’n hir yn ei gylch fel Aelod o’r meinciau cefn.
Mewn pleidlais hanesyddol a gynhaliwyd yn y Senedd ar 28 Ionawr 2020, pleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad o 36 i 14 i gymeradwyo’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a Chymru oedd y wlad ddiweddaraf i ymuno â 58 o genhedloedd ledled y byd i roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
2011-2016
Yng Nghynulliad 2011-2016 gwasanaethodd Julie ar y Pwyllgor Cyllid, Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a chadeiriodd saith Grŵp Trawsbleidiol (Canser, Plant, Sipsiwn a Theithwyr, Haemoffilia a Gwaed Halogedig, Undebau Cyfiawnder, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Undeb GCM).
Cyfnod Julie yn Nhŷ'r Cyffredin
Fel Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, roedd Julie Morgan yn aelod o'r Pwyllgor Cyfiawnder, y Pwyllgor Materion Cymreig, y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y Pwyllgor Dethol a Grŵp Menywod Seneddol y Blaid Lafur.
Roedd hi'n gadeirydd grwpiau yn cynnwys y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Plant yng Nghymru, yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol plant ledled Cymru, y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer diwygio cyfraith Sipsiwn a Theithwyr, a'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau (gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol). Roedd hefyd yn gyd-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar TB Byd-eang.
Cyflwynodd Julie dri Bil Aelod Preifat – un ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, un ar ganiatáu pleidleisio i bobl 16 oed, ac un ar atal pobl dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul a ddaeth yn gyfraith yn 2010.
Sefydliadau, achosion ac elusennau y mae Julie yn eu cefnogi
Mae Julie yn aelod o'r undeb Unite ac roedd hi’n un o sylfaenwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Celfyddydau'r Merched. Mae hefyd yn un o noddwyr Touch Trust, Advocacy Matters, Bosom Pals Pontyclun, Grŵp Eiriolaeth ar gyfer Menywod sy'n Ceisio Lloches a Fforwm Polisi Cymru.
Mae Julie yn un o ymddiriedolwr Life for African Mothers, a sefydlwyd gan nyrs o Gaerdydd ac sy'n gweithio i leihau’r cyfraddau marwolaethau mamau yn yr Is-Sahara a Dwyrain Affrica. Yn nes adref, mae hi’n Llywydd ar fand pres Melingriffith ac yn Is-lywydd Hosbis Dinas Caerdydd. Mae hi'n aelod cyswllt o Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.