GWYBODAETH AM Y CORONAFEIRWS i etholwyr
Rwyf wedi cael llawer o negeseuon gan etholwyr sy’n poeni, yn ddealladwy, am y Coronafeirws. Mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym ac mae’n cael effaith ddramatig ar gynifer o wahanol agweddau ar ein bywydau.
Isod mae rhestr o lincs a ffynonellau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau. Byddaf yn cadw’r wybodaeth mor gyfoes â phosibl yn y sefyllfa gyfnewidiol hon.
Mae’r wybodaeth wedi’i chrynhoi o dan y categorïau a ganlyn (o 27 Mawrth, 2020):
- Cyngor y Llywodraeth
- Iechyd
- Ysgolion
- Busnes a Chyflogaeth
- Siopa
- Gwirfoddoli
- Iechyd meddwl
- Trafnidiaeth
- Tai
CYNGOR Y LLYWODRAETH
LLYWODRAETH CYMRU
Mae tudalen wybodaeth Llywodraeth Cymru sy’n benodol am y coronafeirws i’w chael yn: https://llyw.cymru/coronafeirws
Mae sefyllfa pandemig y coronafeirws yn newid yn gyflym, felly darperir diweddariadau rheolaidd.
Y peth pwysicaf y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i arafu lledaeniad y feirws ac arbed ein GIG rhag cael ei lethu yw aros gartref. Dyma’r canllawiau: https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
Dyna pam y cyhoeddodd y Llywodraeth dri cham newydd ar 23 Mawrth, 2020:
- ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref, ac eithrio at rai dibenion cyfyngedig yn unig
- cau siopau nad ydynt yn hanfodol a lleoedd cymunedol
- atal pob cyfarfod o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus
Rhaid i bawb gydymffurfio â’r mesurau newydd hyn.
Bellach mae gan yr heddlu y pwerau i orfodi hyn drwy ddirwyon ac atal grwpiau rhag crynhoi.
CYNADLEDDAU I’R WASG LLYWODRAETH CYMRU: AR Y TELEDU A’R RADIO
- Gallwch hefyd wylio sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru ar BBC Cymru o ddydd Llun, 23 Mawrth
- Gallwch wrando ar Radio Wales ychydig ar ôl 4pm ac ar Radio Cymru yn ystod y rhaglen Dros Ginio.
CYNGOR LLYWODRAETH Y DU
Mae gwybodaeth gan Lywodraeth y DU ar gael ar y wefan: https://www.gov.uk/coronavirus
Gallwch HEFYD gael y wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol i’ch ffôn symudol gan ddefnyddio WhatsApp.
I gael y gwasanaeth hwn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu’r rhif 07860 064422 at eich rhestr cysylltiadau ac anfon y neges "hi" at y rhif hwnnw ar WhatsApp.
IECHYD
Y gronfa wybodaeth o bwys ynghylch iechyd cyhoeddus o ran y coronafeirws yw gwefan IECHYD CYHOEDDUS CYMRU: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/
Beth ddylech chi ei wneud os credwch fod gennych symptomau?
Dylech edrych ar wiriwr symptomau GIG Cymru: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/SelfAssessments/symptomcheckers/COVID19.aspx.
NI DDYLECH fynd i’ch meddygfa Meddyg Teulu, eich fferyllfa na’ch Ysbyty lleol.
MEDDYGON TEULU
Rydym wedi nodi pum cam syml i helpu pobl i ddefnyddio gwasanaethau meddygon teulu i amddiffyn eu hunain a staff gofal iechyd. Mae’r camau i’w gweld yn https://llyw.cymru/camau-syml-i-helpu-eich-practis-meddyg-teulu-eich-helpu-chi
Presgripsiwn
Mae Boots UK wedi cadarnhau wrth Lywodraeth Cymru, oherwydd yr heriau iechyd digynsail yr ydym yn eu hwynebu, ei bod yn hepgor taliadau danfon presgripsiwn ar gyfer cleifion dros 70 oed a’r rheini â chyflyrau iechyd sylfaenol.
I gael canllawiau ar bresgripsiynau rheolaidd ewch i: https://llyw.cymru/camau-syml-i-helpu-eich-fferyllfa-ich-helpu-chi.
Mae Prif Swyddog Fferyllol Cymru wedi cyhoeddi pum cam syml i helpu pobl i helpu eu fferyllydd lleol: https://llyw.cymru/camau-syml-i-helpu-eich-fferyllfa-ich-helpu-chi.
Pobl sy’n agored i niwed
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy’n hynod o agored i niwed – yma: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-html
Coronafeirws: cynnal profion
Mae llawer o bobl yn poeni am brofion am y coronafeirws. Cyhoeddwyd datganiad am hyn gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener 20 Mawrth, yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-coronafeirws-covid-19-profion
Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig arall ar 21 Mawrth: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-coronafeirws-covid-19-diweddariad
YSGOLION
Cafodd ysgolion eu cau ddydd Gwener 20 Mawrth. O ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen, fe wnaethant agor i ddarparu cefnogaeth i’r plant hynny nad oedd modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref ac i blant rhieni a ddiffiniwyd fel gweithwyr allweddol hanfodol.
Cwestiynau Cyffredin am gau ysgolion
https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws
Mae Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth am sut y bydd ysgolion yn gweithio o ddydd Llun 23 Mawrth 23 ar gael yn: https://llyw.cymru/sut-y-bydd-ysgolion-yn-gweithio-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws
5 peth y dylech ei wybod cyn anfon eich plant i’r ysgol neu i ofal plant
Gwybodaeth i weithwyr allweddol y mae hawl gan eu plant i fynd i’r ysgol: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-meini-prawf-ar-gyfer-defnyddior-ddarpariaeth-barhaus-ar-gyfer-plant-syn
Arholiadau
Bydd dysgwyr sydd i fod i sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn yn cael gradd deg i gydnabod eu gwaith, gan ddefnyddio’r amrywiaeth o wybodaeth sydd ar gael. Cyhoeddwyd hefyd yn ddiweddar bod y Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, wedi penderfynu na fydd yn ofynnol i fyfyrwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 12 a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf hwn sefyll yr arholiadau hyn yn ddiweddarach.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau arholiadau ar gyfer Safon UG (AS) a Blwyddyn 10 yma:
https://www.cbac.co.uk/erthyglau-casgliad/
https://www.qualificationswales.org/cymraeg/coronafeirws---covid-19/
Prydau ysgol am ddim
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei chefnogaeth i deuluoedd plant sy’n cael prydau ysgol am ddim – gan y darperir hyd at £7 miliwn i awdurdodau lleol i sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn dal ar gael ar ôl i ysgolion gau. https://llyw.cymru/llywodraeth-cymru-yn-sicrhau-bod-7-miliwn-ar-gael-i-gefnogi-disgyblion-tra-mae-ysgolion-ar-gau
BUSNES
Y prif ganolbwynt gwybodaeth yw tudalennau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymorth Busnes: https://llyw.cymru/cefnogaeth-y-coronafeirws-ar-gyfer-eich-busnes sy’n darparu cyngor ar:
- Ryddhad ardrethi busnes
- Grantiau
- Grant newydd i fusnesau bach
- Cynllun benthyciad ymyrraeth busnes
Cymorth busnes ychwanegol
Gallwch gael cymorth a chefnogaeth i’ch busnes gan Fusnes Cymru, neu ffoniwch 03000 603000.
Mae grantiau, benthyciadau a buddsoddiad ar gyfer busnes drwy Fanc Datblygu Cymru, ac mae modd eu ffonio ar 0800 587 4140.
Rhagor o wybodaeth am fusnes
Gellir gweld Cynllun Gweithredu Coronafeirws Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn: https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-action-plan
CYFLOGWYR
Canllaw i Gyflogwyr Llywodraeth y DU:
https://www.businesssupport.gov.uk/faqs/
https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19
Mae cyngor i gyflogwyr a gweithwyr gan ACAS ar gael yma: https://www.acas.org.uk/coronavirus
Gwybodaeth am y Cynllun Cadw Swyddi
CYMORTH AR GYFER GWEITHWYR
Mae Llywodraeth y DU yn talu hyd at 80% o gyflogau gweithwyr ar gyfer gweithwyr a fyddai fel arall yn cael eu diswyddo, hyd at uchafswm o £2,500 y mis i bob gweithiwr, fel grant.
Bydd y gefnogaeth gyflog hon yn para am o leiaf 3 mis. Gellir ôl-ddyddio hwn ac mae’n gymwys ar gyfer gweithwyr a oedd ar y gyflogres ar 19 Mawrth, hyd yn oed os cawsant eu gwneud yn ddi-waith ers hynny.
https://www.gov.uk/government/news/chancellor-announces-workers-support-package
https://www.gov.uk/browse/benefits/universal-credit
POBL HUNANGYFLOGEDIG
Ar 26 Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymorth i bobl sy’n hunangyflogedig: https://www.gov.uk/government/news/chancellor-gives-support-to-millions-of-self-employed-individuals
SIOPA
Lansiodd y sefydliad Which, sy’n rhoi cyngor i ddefnyddwyr, ei fod wedi lansio hwb ar-lein sy’n benodol ar gyfer hawliau defnyddwyr mewn cysylltiad â’r coronafeirws: https://www.which.co.uk/news/coronavirus/
Bu siopa ar-lein yn yr archfarchnadoedd yn anodd i lawer o bobl, ac roedd y gwasanaethau o dan straen mawr is proving difficult for many people with services under severe strain.
Ygrifennais at Brif Weithredwr Sainsbury’s ar ôl i etholwyr ddweud wrthyf na allent gofrestru fel rhywun a oedd yn agored i niwed er mwyn bod yn gymwys i gael danfoniadau bwyd, oherwydd bod hwn yn gyfleuster yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd.
GWIRFODDOLI
Lansiodd Llywodraeth Cymru (ddydd Sul 22 Mawrth 2020) ymgyrch i helpu pobl sy’n aros gartref oherwydd y coronafeirws.
- Mae’r ymgyrch Edrych ar ôl ein Gilydd yn canolbwyntio ar y pethau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu ein gilydd yn ystod y pandemig.
- Mae’n darparu canllawiau ymarferol ar sut y gellir cyflawni tasgau bob dydd, fel gwneud cymwynasau neu aros mewn cysylltiad yn ddiogel, heb gyswllt corfforol i leihau’r risg o ddal y coronafeirws.
- Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut i gadw’n brysur, yn feddyliol ac yn gorfforol.
- Cafodd hwb ar-lein newydd – https://llyw.cymru/iach-a-diogel https://llyw.cymru/iach-a-diogel – hefyd ei lansio ac mae’n cynnwys cerdyn ‘help llaw’, y gellir ei lawrlwytho a’i roi drwy flychau llythyrau cymdogion i gynnig help i’r rhai sy’n ynysu.
Lansiodd Cyngor Caerdydd gynllun gwirfoddolwyr, sy’n cynnwys helpu pobl agored i niwed gyda’u siopa. Roedd rhif ffôn ar gael i gael Cymorth sef 029 2087 1071, ac roedd y gwasanaeth yn eich rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr a allai eich helpu. Mae rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yng Nghaerdydd ar gael yn: www.volunteercardiff.co.uk
Gwirfoddoli ar draws cymru
Mae system wedi bod ar waith yng Nghymru ers pythefnos sy’n defnyddio platfform o’r enw Gwirfoddoli yng Nghymru. Caiff ei gynnal gan y 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol ledled y wlad. Mae manylion gwirfoddolwyr yn cael eu casglu a’u paru â chyfleoedd lleol. Gweler: https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm
IECHYD MEDDWL
Mae gan Mind gysylltiadau defnyddiol, gan gynnwys ar y wefan befrienders.org a’r Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L.)
0800 132 737 (Llinell Gymorth MIND)
Mae’r Samariaid hwythau yn cynnig cymorth iechyd meddwl brys dros y ffôn – Rhif y Llinell Gymorth yw 116 123
or email jo@samaritans.org
https://www.samaritans.org/how-we-can-help/contact-samaritan/
Comisiynydd Plant Cymru
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi lansio canolbwynt pwrpasol sy’n cynnig cyngor i blant a phobl ifanc ar y coronafeirws. Mae hefyd yn cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau a chyngor ynghylch cadw’n heini.
https://www.complantcymru.org.uk/coronafeirws/
Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu am ddim, cyrsiau bach ar 900+ o bynciau, cwisiau, gemau rhyngweithiol, fideos a mwy:
https://www.open.edu/openlearn/
Byw Heb Ofn – Llinell Gymorth Cam-drin a Thrais Cymru Gyfan
Ffôn: 0808 8010 800
Ebost: info@livefearfreehelpline.wales
Gwefan: http://livefearfree.gov.wales/
Mae Silver Line yn llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy’n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn, ac mae’n agored 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn.
https://www.thesilverline.org.uk/
TRAFNIDIAETH
CEIR
Bydd perchnogion cerbydau yn cael eithriad 6 mis rhag profion MOT, a bydd hyn yn galluogi pobl i barhau i deithio i’r gwaith pan na ellir gweithio gartref, neu fynd i siopa am nwyddau angenrheidiol.
Bydd pob car, fan a beic modur a fyddai fel arfer angen prawf MOT yn cael ei eithrio rhag bod angen prawf o 30 Mawrth 2020.
Rhaid cadw cerbydau mewn cyflwr sy’n addas ar gyfer y ffordd, a bydd garejys yn parhau ar agor ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol.
Gellir erlyn gyrwyr os ydyn nhw’n gyrru cerbydau anniogel.
- Coronavirus (COVID-19): MOTs for cars, vans and motorcycles due from 30 March 2020
- Coronavirus (COVID-19): MOT centre and tester guidance
TRENAU
O ddydd Llun 23 Mawrth, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru y byddai’n darparu teithio am ddim i holl weithwyr y GIG yn ôl ac ymlaen i’r gwaith tan 30 Ebrill os ydynt yn dangos eu cerdyn adnabod (ID) y GIG.
https://news.tfwrail.wales/news/free-travel-for-nhs-workers-from-monday-23rd-march-2020
Mae amserlen gyfyngedig ar waith – ceir gwybodaeth yma: https://tfwrail.wales/covid-19
TAI
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyngor ar gyfer tenantiaid yma: https://llyw.cymru/rhentu-cartref-coronafeirws
Cymorth i Brynu
Ar Fawrth 18 dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno seibiant rhag ad-dalu llog dros dro am dri mis ar gyfer cwsmeriaid Cymorth i Brynu Cymru y codir llog arnynt a allai ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i’r achosion o’r coronafeirws.
Deddfwriaeth frys i amddiffyn pobl sy’n rhentu a landlordiaid
- Bydd deddfwriaeth y DU frys a gyflwynwyd i amddiffyn rhentwyr a landlordiaid y mae COVID-19 yn effeithio arnynt yn gymwys i Gymru:
- Bydd amddiffyniad newydd fel rhan o’r Bil brys hwn yn cynnwys:
- Ni fydd landlordiaid yn gallu cychwyn achos meddiant i droi tenantiaid allan am o leiaf dri mis yn ystod yr argyfwng; a
- Bydd y seibiant talu morgais tri mis yn cael ei ymestyn i gynnwys morgeisi Prynu i Osod er mwyn amddiffyn landlordiaid.
- Mae’r wybodaeth ar gael yma: https://www.gov.uk/government/news/complete-ban-on-evictions-and-additional-protection-for-renters
Digartrefedd
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £10 miliwn ar gael i gynghorau yng Nghymru i’w helpu i weithredu ar unwaith ac yn uniongyrchol i amddiffyn pobl ddigartref a’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yn wyneb pandemig y coronafeirws